|
|
Y Proffwyd
By Khalil Gibran
First edition, 2026. Illustrations by Khalil Gibran. Translated into Welsh by Dmitri Hrapof. Dundee: Evertype. ISBN 978-1-78201-346-4. Click on the book cover on the right to order this book from Amazon.co.uk! Or if you are in North America, order the book from Amazon.com! Also available , and in Breton, in Cornish, in English, in French, in Irish, and in Spanish.
A llefodd llanc: Llefara wrthym am Gyfeillgarwch.
Atebodd efe:
Eich cyfaill yw’r ateb i’ch anghenion.
Ef yw eich maes, yr ydych yn ei hau mewn cariad ac yn ei fedi mewn diolchgarwch.
Ef yw eich bwrdd a’ch aelwyd.
Canys yr ydych yn dyfod ato â’ch newyn, ac yn ei geisio er mwyn tangnefedd.
|
|
And a youth said, Speak to us of Friendship.
And he answered, saying:
Your friend is your needs answered.
He is your field which you sow with love and reap with thanksgiving.
And he is your board and your fireside.
For you come to him with your hunger, and you seek him for peace.
|
Pan lefero eich cyfaill ei feddwl, peidiwch ag ofni’r “nage” yn eich meddwl eich hunain, a pheidiwch â dal yr “ie” yn ôl.
A phan fydd yn ddistaw, na pheidied eich calon â gwrando ar ei galon;
Canys heb eiriau, mewn cyfeillgarwch, y genir ac y rhennir pob meddwl, pob dymuniad a phob disgwyliad, gyda llawenydd di-glod.
Pan ymadewch â’ch cyfaill, peidiwch â galaru;
Canys efallai y bydd yr hyn a garwch fwyaf ynddo yn eglurach yn ei absenoldeb, megis y mae’r mynydd yn eglurach i’r dringwr o’r gwastadedd.
Na fydded gan gyfeillgarwch unrhyw amcan ond dyfnhau’r ysbryd.
Canys nid cariad yw’r cariad sy’n ceisio dim ond datguddio ei gyfrinach ei hun; rhwyd ydyw a daflwyd allan, ac ni ddelir ynddi ond yr hyn sy’n ddiwerth.
|
|
When your friend speaks his mind you fear not the “nay” in your own mind, nor do you withhold the “aye”.
And when he is silent your heart ceases not to listen to his heart;
For without words, in friendship, all thoughts, all desires, all expectations are born and shared, with joy that is unacclaimed.
When you part from your friend, you grieve not;
For that which you love most in him may be clearer in his absence, as the mountain to the climber is clearer from the plain.
And let there be no purpose in friendship save the deepening of the spirit.
For love that seeks aught but the disclosure of its own mystery is not love but a net cast forth: and only the unprofitable is caught.
|
A bydded eich gorau er mwyn eich cyfaill.
Os rhaid iddo wybod trai eich llanw, bydded iddo wybod ei lif hefyd.
Canys ai rhywun i’w geisio ag oriau i’w lladd yw eich cyfaill?
Ceisiwch ef bob amser ag oriau i’w byw.
Canys ei eiddo ef yw diwallu’ch angen, eithr nid llenwi’ch gwacter.
Ac ym melyster cyfeillgarwch, bydded chwerthin a rhannu pleserau.
Canys yng ngwlith y pethau bychain y mae’r galon yn canfod ei bore ac yn cael ei hadfywio.
|
|
And let your best be for your friend.
If he must know the ebb of your tide, let him know its flood also.
For what is your friend that you should seek him with hours to kill?
Seek him always with hours to live.
For it is his to fill your need, but not your emptiness.
And in the sweetness of friendship let there be laughter, and sharing of pleasures.
For in the dew of little things the heart finds its morning and is refreshed.
|
|
|
Mae Y Proffwyd yn llyfr sy’n cynnwys 26 o ddamhegion a ysgrifennwyd yn Saesneg ar ffurf barddoniaeth ryddiaith gan y bardd a’r athronydd Libanaidd-Americanaidd Kahlil Gibran. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1923, a dyma waith mwyaf adnabyddus Gibran. Mae Y Proffwyd wedi’i gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan ei wneud yn un o’r llyfrau a gyfieithwyd fwyaf erioed. Ni fu erioed allan o brint.
Mae’r hanes yn ein cyflwyno i’r Proffwyd Almwstaffa, sydd wedi disgwyl am ddeuddeng mlynedd am ei long, a fydd o’r diwedd yn ei gludo’n ôl i ynys ei enedigaeth. Cyn iddo ymadael, mae rhai o drigolion dinas Orffalês yn gofyn iddo, am y tro olaf, rannu â hwy ei ddirnadaethau ar amryw bynciau (“Llefara wrthym am …”). Mae’r Proffwyd yn traddodi 26 o bregethau sy’n ymdrin â chwestiynau sylfaenol bywyd dynol, sef cariad, priodas, plant, rhoi, bwyta ac yfed, gwaith, llawenydd a galar, tai, dillad, prynu a gwerthu, trosedd a chosb, cyfreithiau, rhyddid, rheswm ac angerdd, poen, hunan-adnabyddiaeth, addysgu, cyfeillgarwch, siarad, amser, daioni a drygioni, gweddi, pleser, harddwch, crefydd ac, yn olaf, angau. Yn y bennod olaf, mae Almwstaffa yn plethu trafodaeth ar gwestiwn ystyr bywyd i’w eiriau ymadael.
|
|
The Prophet is a book of 26 fables written in English prose poetry by the Lebanese-American poet and philosopher Kahlil Gibran. It was first published in 1923 and is Gibran’s best known work. The Prophet has been translated into over 100 languages, making it one of the most translated books in history. It has never been out of print.
The narrative introduces us to the Prophet Almustafa, who has waited twelve years for his ship, which will finally take him back to his homeland. Before leaving, some inhabitants of the city of Orphalese ask him to convey to them his insights on various topics for the last time (“Speak to us of…”). The Prophet relates 26 sermons that deal with basic questions of human life, such as love, marriage, children, giving, eating and drinking, work, joy and sorrow, houses, clothes, buying and selling, crime and punishment, laws, freedom, reason and passion, pain, self-knowledge, teaching, friendship, talking, time, good and evil, prayer, pleasure, beauty, religion, and finally death. In the final chapter, Almustafa interweaves a discussion about the question of meaning into his parting words.
|
|